
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
GWESTY VICTORIA

Mae'r Vic yn cael ei redeg gan deulu ac fe gewch yno lety gwych, bwyd ardderchog a chroeso cynnes iawn.
Beth am ddod yn gynnar a mwynhau pryd o fwyd, ar gael o 6pm ymlaen, neu hyd yn oed aros noson?
Gwybodaeth/Cadw lle: vicmenai.com
Ffôn: 01248 712309
Gwesty Victoria
Porthaethwy
Ynys Môn
LL59 5DR
Maes parcio mawr a lle parcio cyhoeddus yn Stryd y Paced gyferbyn
Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw
Tocynnau a gwybodaeth: 01745 812260
Peidiwch a cholli
ALAN BARNES A'R
THE BROWNFIELD / BYRNE QUINTET
Dechrau am 8:30pm
Mynediad £8, Gostyngiadau £7
Aelodau o Undeb y Myfyrwyr a Phlant Ysgol £3


Rydyn ni’n sicr o gael noson wych o jazz yn y Vic yng nghwmni’r sacsoffonydd o fri rhyngwladol, Alan Barnes, a’r pumawd jazz ifanc disglair dan arweiniad trwmped/sax.
Mae ALAN BARNES
wedi ennill adrannau sax alto a chlarinet Gwobrau Jazz Pryain bum gwaith a’r adran sax bariton dair gwaith. Mae ganddo lu o recordiadau fel blaenwr, gyda’r pianyddion Brian Lemon ar label Zephyr a Dave Newton ar Concord Jazz, a gydaKenny Baker, Bob Wilber, Stan Tracey, the Tina May Trio a Tenor Madnessgyda Spike Robinson.
Bu Alan yn chwarae gyda Band Humphrey Lyttelton, y BBC Big Band, Cerddorfa Radio y BBC a Clark Tracey’s Tribute to Art Blakey, a rhwng 1987 a 1997 bu’n flaenwr yPizza Express Modern Jazz Sextet, gyda Gerard Presencer a Dave O’Higgins. Yn 2001 a 2006, cafodd ei ddewis yn Offerynnwr Jazz y Flwyddyn y BBC a bu’n chwarae ar albwm“Cannonball” y Don Weller Band a enillodd wobr Albwm y Flwyddyn yng Ngwobrau Jazz Prydain. Mae Alan yn gerddor amryddawn iawn sy’n eithriadol o boblogaidd mewn gwyliau ledled Prydain ac mae wedi perfformio gyda Selina Jones, Bjork, Van Morrison,Clare Teal, Jamie Cullum a Bryan Ferry. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod ar sawl taith yn yr Unol Daleithiau, De Affrica ac Ewrop.

Dau gerddor ifanc dawnus o Ogledd Cymru, Jamie Brownfield (trwmped) a Liam Byrne (sax), yw blaenwyr y BROWNFIELD / BYRNE QUINTET. Maen nhw’n rhoi naws ffres ac ifanc i glasuron a ffefrynnau bebop o gyfnod Blue Note y 40au a’r 50au ac ychydig o ganeuon bywiog y 30au.


Mae’r trwmpedwr JAMIE BROWNFIELD wedi ennill gwobr y Rising Star yng Ngwobrau Jazz Prydain. Ymhlith ei ddylanwadau mae Clifford Brown a Wynton Marsalis ac mae’n chwarae mewn pob math o arddulliau ar gyfer y trwmped jazz. Bu LIAM BYRNE, sax tenor, yn astudio yn Ysgol Gerdd y Guildhall. Mae ganddo dôn ddofn soniarus ac mae’n ennill enw da iddo’i hun ym myd y sacsoffon tenor jazz. Ymhlith ei ddylanwadau mae Lester Young, Coleman Hawkins a Sonny Rollins. Mae tri cerddor ifanc dawnus arall yn aelodau o’r Brownfield/Byrne Quintet: ANDY HULME (gitâr), ED HARRISON (dwbl bas) a JACK COTTERILL (drymiau).
Yn ôl Dave Gelly yn y Guardian, mae arddull a sain y pumawd yn “crisp, polished and full of life, playing some of the tastiest tunes from the days of bebop, swing and even before”. Cawn flas o hynny ar eu CD diweddaraf, “BBQ” sy’n cynnwys trefniannau dyfeisgar gan Liam. Mae’r cyngerdd hwn ganddynt, yng nghwmni Alan Barnes,yn addo bod yn noson wych o gerddoriaeth.