THE ROYAL BRITISH LEGION

Royal British Legion
Watts Dyke
Llay
Wrexham
LL12 0RL
Admission:
£10
£8 (Concession)
£5 (Students’ Union Members & Schoolchildren)
Concerts commence at 8:30pm
For further information telephone
01745 812260
Tuesday 28 April / Dydd Mawrth 28 Ebrill
ALAN BARNES + QUARTET

Mae ALAN BARNES wedi ennill adrannau sacs alto a chlarinet Gwobrau Jazz Prydain
bum gwaith a’r adran sacs bariton dair gwaith. Bu’n recordio’n aml gyda’r pianyddion
Brian Lemon ar label Zephyr a Dave Newton ar label Concord Jazz, a gyda Kenny Baker,
Bob Wilber, Stan Tracey, y Tina May Trio a Spike Robinson a’i Tenor Madness.
Daeth Alan i sylw ym myd jazz Prydain i ddechrau yn 1983 pan ymunodd â band ‘hard
bop’ Tommy Chase ac, yn nes ymlaen, pan oedd ym mand Humphrey Lyttleton rhwng
1988 a 1993, cyn canolbwyntio ar ei yrfa fel cerddor llawrydd. Am ddeng mlynedd, bu’n
darlledu’n rheolaidd gyda Band Mawr, Cerddorfa Radio a Cherddorfa Gyngerdd y BBC a
bu’n teithio ac yn recordio gyda Dick Walter, Kenny Baker, Bob Wilber, Mike
Westbrook, Don Weller, Stan Tracey a John Dankworth a’u bandiau mawr. Rhwng 1987 a
1997 ef oedd blaenwr y Pizza Express Modern Jazz Sextet, gyda Gerard Presencer a
Dave O’Higgins.
Am bum mlynedd, bu Alan yn aelod o Gerddorfa Laurie Holloway gan ymddangos yn
rheolaidd ar raglen Michael Parkinson ar y teledu. Cafodd ei ddewis yn Offerynnwr Jazz y
Flwyddyn y BBC yn 2001 a 2006 ac, yn 2003, gwnaed ef yn gymraed Coleg Cerdd Leeds.
Yn yr un flwyddyn, lansiodd ei label recordio ei hunan, Woodville Records, ac erbyn hyn
mae wedi cynhyrchu dros 40 o CDs, yn cynnwys rhai’n chwarae gyda Scott Hamilton,
Warren Vache, Ken Peplowski, Harry Allen, David Newton, Bruce Adams a Martin
Taylor. Mae wedi recordio rhai o gerddorion ei genhedlaeth ef hefyd, fel Jim Hart,
Simon Spillett ac Enrico Tomasso.
Ymhlith ei brosiectau diweddaraf mae The Liquorice-stick All-sorts gyda Jim Hart ar y
feibs a Paul Clavis ar y drymiau, wythawd o sêr yn chwarae cerddoriaeth Duke Ellington,
albwm o’r enw “Two For The Road” gyda Martin Taylor, a enwebwyd ar gyfer un o
Wobrau Jazz Prydain, albwm o gerddoriaeth Art Pepper, “Scenes in The City” gydag
Arnie Somegyi’n chwarae cerddoriaeth Charles Mingus, trefniannau newydd o ganeuon
Johnny Mandel gydag Anita Wardell a phumawd newydd gyda Tony Kofi. Yn ogystal, bu
Alan yn chwarae’n ddiweddar ar recordiad Bryan Ferry, “Jazz Age”, ac ar drac sain The
Great Gatsby. Bu hefyd yn teithio gyda Paloma Faith a Cherddorfa Guy Barker.
Mae’n gerddor aml ei ddawn sy’n boblogaidd iawn mewn gwyliau ledled y Deyrnas
Unedig. Mae Alan wedi perfformio gyda Selina Jones, Bjork, Van Morrison, Clare Teal,
Jamie Cullum a Bryan Ferry ac, yn y blynyddoedd diwethaf, mae wedi teithio llawer yn
America, De Affrica ac Ewrop.
Yn y cyngerdd heno, bydd yn ymddangos gydag allweddellau, gitâr, bas dwbl a drymiau
Pedwarawd Jazz Gogledd Cymru.
