Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £15, Gostyngiadau £13,
Plant Ysgol £5
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 755114
neu
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth:
01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA

CLAIRE MARTIN
TRIAWD DAVE NEWTON
Tuesday 31 March / Dydd Mawrth 31 Mawrth



Mae CLAIRE MARTIN (OBE), cantores fyd-enwog a chyflwynydd Jazz Line-up ar BBC Radio 3,
wedi treulio 27 mlynedd yn mireinio’i chrefft ac yn gwneud enw mawr iddi ei hun ym myd
jazz. Bu canmol mawr ar ei halbymau ac mae wedi cydweithio â rhai o gerddorion gorau’r
byd. Mae Claire wedi’i gwobrwyo saith gwaith yng Ngwobrau Jazz Prydain, gan ennill y
wobr ‘Lleisydd Gorau’ yn 2009 a 2010.
Roedd rhieni Claire wedi gwirioni ar jazz a daeth hi’n gantores broffesiynol pan oedd yn
ddim ond 19 oed. Ddwy flynedd wedyn, gwireddwyd ei breuddwyd o gael canu yng
nghlwb jazz enwog Ronnie Scott yn Soho. Arwyddodd gyda Linn Records yn 1991 ac
erbyn hyn mae wedi rhyddhau 17 o CDs gyda’r label, gan gydweithio â cherddorion o fri fel
Martin Taylor, John Martyn, Stéphane Grappelli, Mark Nightingale, Jim Mullen, Nigel
Hitchcock a’r pianydd a’r cyfansoddwr mawr Syr Richard Rodney Bennett. Bu’n perfformio
gydag ef, tan iddo farw yn 2012, ym Mhrydain ac America lle byddai’r torfeydd yn heidio i
wrando arnynt mewn llefydd fel Gwesty Algonquin, Efrog Newydd. Roedd y beirniaid wrth
eu bodd â’r CD a wnaethant ar y cyd, Witchcraft, ac roedd cylchgrawn Jazzwise yn ei
argymell yn bendant.
Bu Claire yn perfformio ledled Ewrop ac Asia gyda’i thriawd gwych, gan deithio
Sgandinafia, Rwsia a Tsieina. Bu hefyd yn unawdydd gyda cherddorfeydd a bandiau fel
Cerddorfa Philharmonig Frenhinol Lerpwl, Cerddorfa’r Halle, y BBC Big Band, Cerddorfa
Gyngerdd y BBC a Cherddorfa Gyngerdd RTE, Iwerddon. Yn 2011, ymddangosodd am y tro
cyntaf yng Nghanolfan Lincoln, Efrog Newydd gyda’r pianydd Bill Charlap.
Yn yr un flwyddyn, bu Claire yn recordio gyda’r pianydd jazz gwych o America, Kenny
Barron a nifer o sêr Americanaidd eraill ar gyfer ei phymthegfed albwm gyda Linn Records.
Cafodd Too Much in Love to Care adolygiadau pum seren a dywedodd Jazz Journal ei bod
yn un o’r cantorion jazz gorau yn y byd heddiw. Aeth yr albwm ymlaen i ennill gwobr y
recordiad newydd gorau yng Ngwobrau Jazz Prydain 2012 ac fe dreuliodd Claire 2013 yn
teithio gyda’r stwff newydd ym Mhrydain ac Ewrop gan gychwyn sioe newydd, The Two of
Us, gyda’r arweinydd John Wilson, Joe Stilgoe, Mark McGann a Cherddorfa Philharmonig
Frenhinol Lerpwl, yn dathlu cerddoriaeth Paul McCartney a John Lennon.
Bu Claire yn cydgyflwyno’r rhaglen Jazz Line-up ar BBC Radio 3 ers y flwyddyn 2000, gan
holi nifer o’i harwyr cerddorol fel Pat Metheny, y diweddar Michael Brecker, Brad Mehldau
ac Andre Previn ac, yn 2011, roedd wrth ei bodd o gael yr OBE am ei gwasanaethau i jazz
yn Rhestr Anrhydeddau Pen Blwydd y Frenhines.
Ers hynny, mae Claire wedi perfformio gyda Phedwarawd Cello Montpellier, menter a oedd
yn cynnwys trefniannau wedi’u hysgrifennu’n arbennig ar ei chyfer gan Syr Richard Rodney
Bennett, Mark Anthony Turnage a Django Bates. Arweiniodd hyn at albwm arall gyda Linn
Records, yn 2014, Time and Place.
Cyngerdd o glasuron Amereicanaidd a gawn gan Claire Martin heno, gyda gemau gan
Cole Porter, Irving Berlin a George Gershwin. Yn ymuno â hi bydd TRIAWD DAVE NEWTON.
Dewiswyd Dave yn Bianydd Jazz Gorau 13 o weithiau yng Ngwobrau Jazz Prydain. Mae’n
gerddor uchel ei barch ac mae galw mawr amdano. Mae wedi gweithio gyda cherddorion
jazz o fri fel Martin Taylor, Annie Ross a Carol Kidd. Mae ei driawd yn cynnwys bas a
drymiau o’r safon uchaf hefyd.
.