
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
DARIUS BRUBECK QUARTET
Tuesday 4 November / Dydd Mawrth 4 Tachwedd

Mae’r Darius Brubeck Quartet, o dan arweiniad y pianydd enwog a mab yr eiconig
Dave Brubeck, yn chwarae’n gyson i neuaddau llawn trwy Brydain ac Ewrop gan berfformio
cyfuniad unigryw, tri dimensiwn o ganeuon gorau Dave Brubeck, jazz De Affrica a chaneuon
gwreiddiol telynegol. Mae’r ymateb i’r Darius Brubeck Quartet wedi bod yn frwd,
boed yn Riyadh neu Romania.
Yn y cylchgrawn “Jazzwise” disgrifiodd Duncan Heining berfformiad y grŵp yng Ngŵyl
Scarborough 2012 fel “gig y flwyddyn” iddo ef. Mae’r pedwarawd, sy’n cynnwys
Dave O’Higgins, cyn-sacsoffonydd John Dankworth a Cleo Laine, yn ogystal â bas a drymiau
Matt Ridley a Wesley Gibbons, a rhythmau unigryw Brubeck, yn felodig,
yn naturiol ac yn gyffrous.
Ers y 70au cynnar, bu DARIUS BRUBECK yn arwain ei brosiectau ei hun, fel y grŵp
llwyddiannus, y Darius Brubeck Ensemble, oedd yn cynnwys Gerry Bergonzi ar y sacsoffon.
Yna, yn 1983, ar ôl teithio’r byd gyda Two Generations of Brubeck a The New Brubeck Quartet
gyda Dave, Chris a Dan Brubeck a gweithio gyda Larry Coryell a Don Maclean, cyflwynodd
Darius y radd Astudiaethau Jazz gyntaf yn Affrica ym Mhrifysgol KwaZulu-Natal, Durban, De
Affrica. Ef oedd Cyfarwyddwr y Ganolfan Jazz a Cherddoriaeth Boblogaidd yno tan 2005.
Gwnaeth enw iddo’i hun yn rhyngwladol trwy deithio gyda cherddorion o Dde Affrica, a thua’r
adeg yma fe’i comisiynwyd i gyfansoddi darn a berfformiwyd gan Wynton Marsalis a Cherddorfa
Jazz Canolfan Lincoln. Symudodd i Lundain yn y pen draw, lle ffurfiodd y Darius Brubeck
Quartet a Brubecks Play Brubeck sydd, gyda Dave O’Higgins, ein gwestai arbennig a’n
sacsoffonydd heno, yn dychwelyd i Ronnie Scott’s Jazz Club yn
Soho am bedair noson ym mis Medi.
Cafodd DAVE O’HIGGINS, sy’n ffigwr poblogaidd ac adnabyddus ar y sîn jazz ryngwladol,
brofiad cynnar gyda’r gyda’r Gerddorfa Jazz Ieuenctid Genedlaethol. Wedyn, cymerodd gyfnod
sabothol i deithio gyda’r grŵp Mezzoforte o Wlad yr Iâ ac erbyn hyn mae wedi recordio tair
albwm ar ddeg fel arweinydd gyda sawl grŵp. Daeth i amlygrwydd fel ffryntman y band enwog
Roadside Picnic, gan ennill canmoliaeth ar yr un pryd gyda’i driawd ei hun, Gang of Three.
Mae’n gyn-aelod o’r Cleo Laine/John Dankworth Quintet, ac mae Dave hefyd wedi ymddangos
gyda’r bandiau Sax Appeal, y Clark Tracey Sextet, Itchy Fingers, Incognito a band Martin Taylor,
Spirit of Django. Mae wedi perfformio/recordio gydag artistiaid adnabyddus fel Ray Charles,
Peggy Lee, Frank Sinatra, Jamie Cullum, Kyle Eastwood, Peter Gabriel, Big Band y BBC a mwy.
Ers graddio o Goleg Cerdd y Drindod yn 2005, mae MATT RIDLEY wedi dod yn un o chwaraewyr
bas dwbl prysuraf sîn jazz Prydain, gan berfformio’n rheolaidd gyda cherddorion jazz enwog gan
gynnwys Gilad Atzmon, Don Weller a Tommy Whittle. Yn ogystal â’r Darius Brubeck Quartet,
roedd matt hefyd yn aelod o holl ensembles y seren, Michael Garrick, yn cynnwys A Celebration
of the Modern Jazz Quartet. Ers marwolaeth drist michael yn 2011 mae Matt wedi cadw’r fflam
ynghynn gyda’r band Jim Hart’s MJQ Celebration, a berfformiodd yn Clwyd Theatr Cymru
ddechrau’r llynedd.
Cyfarfu WESELEY GIBBENS, drymiwr a aned yn Ne Affrica â Darius Brubeck yn Durban, ac mae
nawr yn gwneud enw iddo’i hun ym Mhrydain gyda sawl prosiect eclectig yn cynnwys y
T J Johnson Band a band Reuben Richards, Soultrain, sy’n perfformio ledled Prydain. Bu Wesley
ar sawl taith i Ewrop hefyd, yn cynnwys gyda’r South African Gospel Singers. Mae’n treulio
gweddill ei amser yn recordio fel drymiwr sesiwn ac yn cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer teledu a
ffilm – mae i’w glywed ar hysbysebion Mastercard, Boden ac Adidas.




Darius Brubeck
Dave O'Higgins
Matt Ridley
Wesley Gibbens
Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £12, Gostyngiadau £10,
Plant Ysgol £5
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 755114
neu www.clwyd-theatr-cymru.co.uk
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth: 01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA
