
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
GWESTY VICTORIA

Mae'r Vic yn cael ei redeg gan deulu ac fe gewch yno lety gwych, bwyd ardderchog a chroeso cynnes iawn.
Beth am ddod yn gynnar a mwynhau pryd o fwyd, ar gael o 6pm ymlaen, neu hyd yn oed aros noson?
Gwybodaeth/Cadw lle: vicmenai.com
Ffôn: 01248 712309
Gwesty Victoria
Porthaethwy
Ynys Môn
LL59 5DR
Dechrau am 8:30pm
Mynediad £8, Gostyngiadau £7
Aelodau o Undeb y Myfyrwyr a Phlant Ysgol £3
Gallwch brynu tocynnau ymlaen llaw
Tocynnau a gwybodaeth: 01745 812260
Dydd Mercher 17 Chwefror / Wednesday 17 February
DAVE O'HIGGINS
Chwaraewr sacsoffon rhyngwladol

Mae’r sacsoffonydd dawnus Dave O’Higgins yn gymeriad poblogaidd ac adnabyddus yn y byd jazz rhyngwladol ac mae wedi recordio 13 albwm fel prif offerynnwr mewn grwpiau amrywiol. Yn ei
ddyddiau cynnar, bu’n chwarae gyda’r Gerddorfa Jazz Ieuenctid Genedlaethol a cymerodd gyfnod
sabathol i fynd ar daith gyda’r grŵp Mezzoforte o Wlad yr Iâ. Yna, daeth i amlygrwydd fel prif
chwaraewr y band poblogaidd Roadside Picnic ac ennill llawer o ganmoliaeth gyda’i driawd,
y Gang of Three.
Bu’n aelod o bumawd Cleo Laine/John Dankworth ac mae wedi chwarae gyda nifer o fandiau eraill fel Sax Appeal, y Clark Tracey Sextet, Itchy Fingers, Incognito a band Martin Taylor, Spirit of Django. Yn ogystal, mae wedi perfformio/recordio gydag artistiaid enwog fel Salif Keita, Ray Charles, Peggy Lee, Frank Sinatra, Jason Rebello, Jamie Cullum, Kyle Eastwood, Peter Gabriel, Stan Tracey, The BBC Big Band a mwy.
Mae wedi ennill gwobr fawr John Dankworth i’r Unawdydd Jazz Gorau ac enillodd wobr y Sacsoffon
Tenor Gorau ddwywaith yng Ngwobrau Jazz Prydain. Mae Dave yn dal yn gymeriad dylanwadol ym
myd jazz y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol ac, yn ddiweddar, cymerodd ran yn nhaith Brubecks play Brubeck gyda Darius, Chris a Dan Brubeck i ddathlu pen blwydd Dave Brubeck yn 90. Mae hefyd wedi recordio dwy CD gyda’r chwaraewr sacs chwedlonol o’r Unol Daleithiau Eric Alexander, yn nhraddodiad Johnny Griffin ac Eddie “Lockjaw” Davis, a Tubby Hayes a Ronnie Scott.
Yn ddiweddar, bu Dave yn cydweithio â Pete Wraight, a fu’n Gyfarwyddwr Cerdd a threfnwr
Matthew Herbert’s Big Band ers deng mlynedd, i gyd-gyflwyno a recordio albwm o bum cyfansoddiad gwreiddiol, gan arwain at brosiect The Two Minds Big Band. Disgwylir i hwn fynd ar daith y flwyddyn nesaf. Mae hefyd wedi rhyddhau CD newydd, Got The Real Note, y mae’n arwain ar y cyd arni gyda’r basydd Geoff Gascoyne. Mae hon yn cynnwys nifer o ‘contrafacts’ (alawon newydd sydd wedi’u hysgrifennu gyda newidiadau cordiau’r hen ffefrynnau) sydd wedi’u hysgrifennu a’u trefnu gan y ddau arweinydd.
Un o Lundain yw Dave O’Higgins ac, yno, mae’n chwarae’n rheolaidd gyda band preswyl Clwb Jazz Ronnie Scott ac yn chwarae bob mis gyda’i bedwarawd yn y 606 Club yn Chelsea.
Dywed efallai mai’r perfformiad y mae’r nifer fwyaf o bobl wedi’i weld a’i glywed ganddo yw ei
ymddangosiad fel bysgiwr gyda Rowan Atkinson yn “The Return of Mr Bean”!
Yn y cyngerdd hwn, bydd Dave O'Higgins yn cael cwmni prif gitarydd jazz Cymru,
TREFOR OWEN, a aned ar Ynys Môn ac sy’n enwog yn rhyngwladol, a thri cherddor dawnus arall
sef PAUL KILVINGTON (allweddellau), GRANT RUSSELL (dwbl bas) a phrif offerynnwr taro
Lladinaidd Prydain, DAVE HASSELL (drymiau).
“O’Higgins plays with quite exceptional fluency and his fund of ideas never runs out.”
The Observer
“Dave's bright, colourful sound on soprano saxophone is a joyous experience.”
Straight No Chaser