
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £15, Gostyngiadau £13,
Plant Ysgol £5
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 755114
neu www.clwyd-theatr-cymru.co.uk
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth:
01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA

MARTIN TAYLOR
PLUS Y BROWNFIELD BYRNE QUINTET
Tuesday 30 June / Dydd Mawrth 30 Mehefin

.
Ym marn llawer, Martin Taylor (MBE) yw’r unawdydd gitâr jazz gorau yn y byd a’i fyseddwaith
yn ddi-guro. Mae ganddo arddull unigryw sy’n destun edmygedd cydgerddorion, cefnogwyr a
beirniaid. Mae’n syfrdanu cynulleidfaoedd â’i arddull unigryw sy’n cyfuno meistrolaeth ar ei
grefft, emosiwn a hiwmor â phresenoldeb arbennig ar lwyfan.
Mae Martin wedi mwynhau gyrfa gerddorol ryfeddol ar draws pum degawd, gyda dros gant o
recordiadau i’w enw. Dysgodd ei hunan i chwarae’r gitâr, gan ddechrau’n ddim ond pedair oed.
Mae wedi dyfeisio a datblygu ei ffordd arbennig ei hunan o chwarae a edmygir yn fawr, a’i
hefelychu, gan gitaryddion o bedwar ban byd.
Yn ogystal â’i gyngherddau a’i recordiadau fel unawdydd, bu’n cydweithio â cherddorion o
lawer iawn o wahanol feysydd cerddorol, yn cynnwys Jeff Beck, Tommy Emmanuel, Bill
Wyman, Chet Atkins, David Grisman, George Harrison, Jamie Cullum, Bryn Terfel, Dianne
Schuur a Gary Burton.
Rhwng 1979 a 1990, bu’n teithio’r byd ac fe recordiodd dros 20 albwm gyda’r fiolinydd jazz
Ffrengig Stephane Grappelli. Enwebwyd eu halbwm gyda Vassar Clements, “Together At Last”,
am wobr Grammy yn 1987, a chafodd Martin ei ddisgrifio gan Grappelli fel
“A great artist, rich in talent and elegance.”
Yn 2010, cafwyd perfformiad cyntaf gwaith newydd cyffrous ar gyfer gitâr, cerddorfa a 'band
mawr', sef 'Spirit of Django Suite' gan Martin Taylor. Yn 2012, darlledodd y BBC y gwaith, gyda
Martin a’r Britten Symphonia yn perfformio, fel rhan o gyngherddau’r Proms yn Neuadd Albert
yn Llundain.
Mae Martin Taylor yn dod â threftadaeth gerddorol gyfoethog ac amrywiol i’w chwarae, i’r
graddau bod Tommy Emmanuel wedi dweud ei fod yn agor y drws ar bopeth a ddaeth o’r
blaen.
Dros ei yrfa ryfeddol, mae wedi ennill 14 o Wobrau Jazz Prydain fel gitarydd a bu sawl albwm
ganddo yn y Deg Uchaf yn America ac Ewrop.
“Martin Taylor is one of the greatest and most impressive
guitar players in the world.” Chet Atkins
Y BROWNFIELD BYRNE QUINTET
Yn ogystal â dwy set gan Martin Taylor fel unawdydd, mae’r cyngerdd heno’n cynnwys
perfformiad gan y Brownfield Byrne Quintet. Gyda dau gerddor ifanc dawnus o’r gogledd,
Jamie Brownfield (trwmped) a Liam Byrne (sacs tenor), yn blaenu, mae’r band yn rhoi naws
ffres ac ifanc i glasuron a ffefrynnau bebop o gyfnod Blue Note y 40au a’r 50au ac ychydig o
ganeuon hŷn.
Mae’r trwmpedwr Jamie Brownfield wedi ennill gwobr y Rising Star yng Ngwobrau Jazz
Prydain a dywed fod Clifford Brown a Wynton Marsalis wedi dylanwadu arno. Mae ganddo
arddull chwarae eang yn cynnwys holl bosibiliadau’r trwmped jazz. Bu Liam Byrne, ar y sacs
tenor, yn astudio yn Ysgol Gerdd y Guildhall, Llundain. Mae ganddo ef dôn ddofn, gadarn ac
mae’n ennill enw da iddo’i hun yn nhraddodiad y sacsoffon tenor jazz. Ymhlith y rhai sydd wedi
dylanwadu arno ef mae Lester Young, Coleman Hawkins a Sonny Rollins.
Aelodau eraill y Brownfield Byrne Quintet yw Andy Hulme (gitâr), Ed Harrison (bas dwbl) a
Jack Cotterill (drymiau), pob un ohonynt yn gerddorion gwych.
“Crisp, polished and full of life, playing some of the tastiest tunes from the days of
bebop, swing and even before.” Dave Gelly
