Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £12,
Gostyngiadau £10,
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 755114
neu
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth:
01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA

Dydd Mawrth 27 Medi / Tuesday 27 September
Nat Steele's
MJQ Celebration




Dyma ddathliad o gerddoriaeth yr enwog Modern Jazz Quartet gan y fibraffonydd
Nat Steele a thri o gerddorion jazz gorau Prydain. Byddant yn cyflwyno eu fersiynau
arbennig eu hunain o glasuron fel ‘Django’, ‘The Golden Striker’, ‘Bag's Groove’ a mwy.
Yn ôl yr enwog Clark Tracey, mae Nat Steele yn un o’r chwaraewyr fibraffôn gorau a
ddaeth o Brydain erioed. Mae wedi datblygu’n chwaraewr ifanc aruthrol sy’n
adnabyddus am ei synnwyr o felodi, gan swingio dau forthwyl yn frwd yn debyg i
arddull Milt Jackson o’r MJQ.
Mae Nat wedi ennill ei blwyf ym myd jazz Llundain fel fibraffonydd a drymiwr ac
mae’n aml yn perfformio gyda sêr jazz o Brydain fel Peter King, Bobby Wellins a
Dave Newton. Mae’n perfformio’n rheolaidd yng Nghlwb Jazz Ronnie Scott ac mae
wedi rhannu llwyfan yno â cherddorion gwych o’r Unol Daleithiau fel Benny Green a
Wynton Marsalis. Cafodd ei ganmol gan artistiaid sy’n galw yno yn eu tro fel Joe Locke,
Jason Marsalis, Harold Mabern ac Eric Alexander ymhlith eraill.
Mae rhai o feistri’r fibraffôn wedi dylanwadu’n gryf ar ei arddull: pobl fel Milt Jackson,
Cal Tjader, Dave Pike a Victor Feldman. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o fibraffonyddion
heddiw, mae’n well ganddo’r arddull felodig ddau-forthwyl na’r arddull gordaidd
bedwar-morthwyl. Mae hyn yn rhoi cyfle iddo ddisgleirio fel unawdydd yn arddull ei
arwyr cerddorol sy’n cynnwys y sacsoffonwyr Charlie Parker a Sonny Rollins a’r
pianydd Bud Powell.
Mae Nat Steele's MJQ Celebration yn cynnwys GABRIEL LATCHIN (piano),
byrfyfyriwr anturus a chyfeilydd brwd sydd wedi chwarae gyda Jean Toussaint,
Ronnie Cuber a Christian McBride; MATT RIDLEY (dwble bas), y gallai selogion ei
nabod fel aelod o’r Darius Brubeck Quartet byd-enwog a fu’n perfformio yn Theatr
Clwyd y llynedd; and STEVE BROWN (drymiau) sydd wedi ennill chwe gwaith yng
Ngwobrau Jazz Prydain.
Gallwch ddisgwyl clywed deongliadau newydd o ffefrynnau disglair fel ‘Softly, as in a
Morning Sunrise’ a ‘Concorde’ sydd eto’n cyfateb i fwriadau gwreiddiol eu
cyfansoddwyr/trefnwyr John Lewis a Milt Jackson. Yn ogystal, bydd y rhaglen yn
cynnwys Sonny Rollins a’r MJQ yn dod ynghyd i gyflwyno fersiwn gyffrous o ‘The Stopper’.