
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £12, Gostyngiadau £10,
Plant Ysgol £5
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 755114
neu www.clwyd-theatr-cymru.co.uk
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth:
01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA

Tuesday 22 September / Dydd Mawrth 22 Medi
CERDDORFA JAZZ SK2
YN TALU TEYRNGED I WAITH STAN KENTON


Cyfle i glywed Cerddorfa Jazz 18 darn SK2, gyda cherddorion dawnus o ogledd Lloegr fel
Munch Manship, Neil Morley a Lee Hallam, o dan arweiniad y drymer, Dave Tyas, yn chwarae
caneuon enwocaf y pianydd, y cyfansoddwr a’r trefnydd jazz chwedlonol, Stan Kenton. Dyma
gyfle prin i glywed band mawr o’r safon uchaf, Cerddorfa Jazz SK2, yn cadw’r gerddoriaeth
eiconig yn fyw i gynulleidfaoedd yr unfed ganrif ar hugain.
Y drymer, Dave Tyas, sy’n arwain y band. Mae’n broffesiynol ers 1971 a bu’n gweithio mewn llawer
o wahanol genres cerddorol a gyda rhai o enwau mwyaf y byd jazz. Al Grey, Jimmy Witherspoon,
Thad Jones a Harry Sweets Edison – dim ond rhai o’r enwau mawr o America y mae wedi chwarae
gyda nhw. Mae hefyd wedi gweithio mewn bandiau gyda’r cerddorion Prydeinig Dick Morrissey,
Alan Barnes, Ronnie Scott a Peter King.
Roedd perfformiad Cerddorfa Jazz SK2 ar ei gwedd bresennol yn un o uchafbwyntiau Gŵyl Jazz
Ryngwladol Wigan y llynedd. Mae’n cynnwys aelodau a ddewiswyd gan Dave am eu gallu i
ymdopi â repertoire unigryw Stan Kenton, sy’n cynnwys caneuon fel “Swinghouse”, “What are you
doing the rest of your life”, “Intermission Riff”, a detholiadau o West Side Story a’r Cuban Fire Suite.
Arweinir adran yr offerynau cyrs gan y sacsoffonydd tenor Munch Manship, a fu’n chwarae gyda
sêr rhyngwladol fel Ronnie Scott, Bobby Shew, Victor Mendoza a Humphrey Lyttelton. Mae gan
Munch sŵn cryf ar y sacsoffon a’r ffliwt ac fe ddatblygodd ei arddull yn rhai o fandiau clybiau nos
Manceinion yn y 1970au. Yno, y clywodd y Stan Kenton Big Band am y tro cyntaf ynghyd â
mawrion y byd jazz fel Thelonious Monk, Oscar Peterson a Cannonball Adderley. Roedd hefyd yn y
band a fu’n chwarae ochr yn ochr â’r sacsoffonydd chwedlonol Art Pepper yng ngŵyl jazz
Hammersmith a Fulham.
Bu Neil Morley o Swydd Efrog yn chwarae’r trwmped blaen mewn bandiau mawr gyda
Frank Sinatra, Tony Bennett, Shirley Bassey a Jack Jones. Bu’n gweithio mewn nifer o genres
cerddorol gyda sêr cerddoriaeth Ladinaidd fel Roberto Pla a Tito Puente ac, ar hyn o bryd, gyda
Diane Shaw sydd ar frig yr UK Soul Chart. Yn ogystal, mae Neil yn un o naw cerddor sy’n cymryd
rhan mewn Mardi Gras arbennig ym mis Gorffennaf 2015, yn cerdded ar draws y Deyrnas Unedig
gan berfformio mewn naw tref ar y ffordd i godi arian tuag at brosiect Favela Brass canmoladwy
Rio de Janeiro.
Lee Hallam sy’n dod yn wreiddiol o Sheffield sydd ar y trombôn blaen. Enillodd Ysgoloriaeth
Archer i Goleg Cerdd Trinity yn Llundain i astudio gyda Bobby Lamb ac enillodd wobr perfformiad
eithriadol yng nghynhadledd Cymdeithas Ryngwladol Addysg Jazz yn LA yn 2005. Mae wedi
perfformio gyda llu o fawrion yn cynnwys Cleo Laine, Jaqui Dankworth, John Dankworth, Butch
Miles, The Andy Prior Big Band, Robson and Jerome, Bobby Shew, Georgie Fame, Diane Schuur,
The Mingus Big Band a llawer mwy.
Yna, yn yr adran rhythm gyda Dave Tyas ar y drymiau, mae Sean Miller (piano) a’r chwaraewr ifanc
disglair Grant Russell (bas dwbl).
.