
LLWYFANNU JAZZ BYW NGOGLEDD CYMRU ERS 30 MLYNEDD.
STAGING LIVE JAZZ IN NORTH WALES FOR 30 YEARS
JAZZ GOGLEDD CYMRU
Dechrau am 8.00pm
YSTAFELL CLWYD
Mynediad £12, Gostyngiadau £10,
Plant Ysgol £5
Tocynnau ar gael o
Clwyd Theatr Cymru ar
01352 701521
neu www.clwyd-theatr-cymru.co.uk
Un o ddigwyddiadau Gŵyl Gelf Sir y
Fflint wedi’i drefnu ar y cyd â Jazz Gogledd Cymru Rhagor o wybodaeth:
01745 812260 / northwalesjazz.org.uk
YSTAFELL CLWYD,
CLWYD THEATR CYMRU,
YR WYDDGRUG,
CH7 1YA

Tuesday 29 March / Dydd Mawrth 29 Mawrth
Y STEVE WATERMAN QUINTET
"Yn Chwarae Gerry Mulligan"


Ac yntau’n drwmpedwr jazz o fri ym Mhrydain a thramor, bydd STEVE WATERMAN
(trwmped a flügelhorn) yn cyflwyno noson o gerddoriaeth Gerry Mulligan, y sacsoffonydd
bariton o’r Unol Daleithiau. Gallwn ddisgwyl clywed rhai o'i ganeuon poblogaidd fel “Line
for Lyons”, “Walkin' Shoes”, “Night Lights” a mwy. Mae Steve yn enwog fel cyfansoddwr a
threfnwr cerddoriaeth. Mae wedi teithio Ewrop gyda Carla Bley ac wedi chwarae gydag
Andy Shepphard, Mal Waldron a Don Weller, ac yn awr mae wedi dod â phedair seren o fyd
jazz Prydain i gyflwyno'i drefniannau ef o rai o ganeuon clasurol Mulligan.
Mae ALAN BARNES wedi ennill adrannau sacs alto a chlarinét Gwobrau Jazz Prydain bum
gwaith a’r adran sacs bariton dair gwaith. Bu Alan yn ymddangos yn rheolaidd am bum
mlynedd yn aelod o’r Laurie Holloway Orchestra ar y Michael Parkinson Show ar y teledu,
cafodd ei ddewis yn Offerynnwr Jazz y Flwyddyn y BBC yn 2001 a 2006 ac mae wedi
cynhyrchu a chwarae ar dros 40 o CDs ar ei label ei hunan, Woodville Records, gyda Warren
Vache, Ken Peplowski, Harry Allen, David Newton a Martin Taylor.
Mae GARETH WILLIAMS (piano) yn berfformiwr creadigol a deinamig ac mae wedi cael
adolygiadau ffafriol iawn ers iddo droi’n broffesiynol tua dechrau’r 90au. Ef oedd enillydd y
dosbarth i bianyddion yng Ngwobrau Jazz Prydain 2013 a disgrifiwyd ef gan Peter Vacher yn
Jazzwise fel “the embodiment of creative energy...with a keyboard command that’s both
impressive and well-directed”. Ac yntau’n gyfarwyddwr cerdd ac yn gyfeilydd i’r gantores
enwog Claire Martin, mae Gareth wedi chwarae gyda llawer o fawrion byd jazz fel
Art Farmer, James Moody a Bud Shank.
Mae ALEC DANKWORTH wedi ennill gwobrau fel cyfansoddwr a dwbl-basydd jazz. Yn
ogystal ag arwain nifer o’i grwpiau ei hunan, mae wedi cydweithio ag artistiaid anhygoel fel
Van Morrison, Stephane Grappelli, Abdullah Ibrahim a The Dave Brubeck Quartet. Mae Alec
yn parhau â’r traddodiad teuluol a sefydlwyd gan ei rieni, y Fonesig Cleo Laine a Syr John
Dankworth ac yn enwog am ei bresenoldeb egnïol ar lwyfan, ei arddull amrywiol a rhai o’r
unawdau bas mwyaf dychmyglon a glywch!
Mae’r arweinydd bandiau a’r drymiwr, CLARK TRACEY, wedi’i ddewis dair gwaith yn
Ddrymiwr Gorau yng Ngwobrau Jazz Prydain ac mae wedi ennill Gwobr Ronnie Scott ar
gyfer y Drymiwr Gorau. Trodd yn broffesiynol yn 1978 pan ymunodd â gwahanol ensembles
ei dad, Stan Tracey, o driawd i gerddorfa, a bu’n chwarae gyda rhai o’r perfformwyr jazz
pwysicaf ym Mhrydain a thramor. Mae Clark wedi ymddangos ar dros naw deg o albymau ac
wedi gweithio gyda mawrion fel Johnny Griffin, Pharaoh Sanders, Ronnie Scott a
Scott Hamilton, i enwi dim ond ychydig.